Meini prawf rhwystr yw'r meini prawf sylfaenol y mae'n rhaid eu bodloni i sicrhau mai dim ond opsiynau y gellir eu cyflawni a fyddai'n cael eu rhoi ar y rhestr fer. Y meini prawf rhwystr a ddefnyddiwyd oedd:
Yn glinigol gynaliadwy – a yw'r opsiwn posibl yn glinigol gynaliadwy?
- A yw'n caniatáu cynnydd tuag at gyflawni safonau ansawdd?
- A yw'n ystyried unrhyw gyd-ddibyniaethau?
- A fydd gweithlu ar gael i'w gyflawni?
Cyflawnadwy – a ellir gweithredu'r opsiwn posibl hwn?
- A fydd modd ei gyflawni'n glinigol o fewn yr amserlen ofynnol (6-12 mis)?
- A oes modd ei gyflawni’n weithredol o fewn amserlen tymor canolig o 6-12 mis (e.e. gellir sicrhau unrhyw ofynion cyfalaf neu ystadau a’u gweithredu o fewn yr amserlen honno?
Hygyrch – a yw'r opsiwn posibl yn hygyrch?
- A yw'r opsiwn yn darparu mynediad o fewn yr amserlen ofynnol?
- A fydd yn cefnogi gostyngiad mewn amseroedd aros?
- A yw'n cefnogi mynediad cyfartal?
Wedi'i alinio'n strategol – a yw'r opsiwn posibl yn cyd-fynd yn strategol?
- A yw'r opsiwn yn cefnogi'r cyfeiriad strategol neu o leiaf heb ei wrth-ddweud?
- A yw'r opsiwn yn cefnogi atal integredig i wella iechyd y boblogaeth neu o leiaf ddim yn gwrth-ddweud hynny?
Yn gynaliadwy yn ariannol – a yw'r opsiwn a ffefrir yn sicrhau ei fod yn ariannol gynaliadwy?