Gan fod yr UMA ar gyfer anafiadau neu salwch nad ydynt yn bygwth bywyd, dylai cleifion allu aros tan y diwrnod canlynol pan fydd yr UMA yn agor.
Gall cleifion â mân anafiadau y tu allan i oriau agor yr Uned Mân Anafiadau ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru ar-lein, ffonio eu meddyg teulu, neu ffonio GIG 111 Cymru am gyngor.
Yn achos argyfwng meddygol neu argyfwng sy'n bygwth bywyd, ni ddylech ymweld ag Uned Mân Anafiadau er eich diogelwch, mae angen i'r gwasanaeth cywir eich gweld ar frys. Mewn argyfwng dylech ffonio 999 neu ymweld ag Adran Achosion Brys (A&E).