Ydym, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiadau sydd gennym o fewn y gweithlu ac nid ydym am golli'r sgiliau hyn.
Efallai y bydd newidiadau posibl i rai staff mewn meysydd gwasanaeth yn dibynnu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, ond bydd angen i'n holl weithwyr gyfrannu at ein huchelgais gyffredin am boblogaeth iachach a darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw staff yr effeithir arnynt ac yn glynu wrth bolisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan sydd ar waith ar gyfer gweithlu'r GIG ledled Cymru.