Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiadau sydd gennym o fewn ein gweithlu. Efallai y bydd newidiadau i staff o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
Gallai hyn gynnwys newidiadau i batrymau gwaith neu leoliadau gwasanaethau. Mae angen i'n holl staff gyfrannu at ein huchelgais gyffredin am boblogaeth iachach ac i ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Rhan o'r her sy'n ein hwynebu yw gorddibyniaeth ar staff dros dro cost uwch ac yn lle hynny rydym am recriwtio mwy o staff parhaol y bwrdd iechyd i rai o'n gwasanaethau.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw staff yr effeithir arnynt ac yn glynu wrth bolisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan sydd ar waith ar gyfer gweithlu'r GIG ledled Cymru.
Rydym wedi ymgysylltu â staff yng nghyfnodau cynnar y gwaith ar ein naw gwasanaeth clinigol ac mae staff cynrychioliadol wedi bod yn rhan o ddatblygu opsiynau.
Byddwn nawr yn ymgysylltu'n ehangach â staff ar draws ein Bwrdd Iechyd, yn ogystal â'n cynrychiolwyr Undebau Llafur, ar yr opsiynau ac i ddeall yr effeithiau posibl, ac i gasglu adborth a syniadau newydd.