Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad gwasanaethau plant a ieuenctid. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau iechyd a gofal ar draws y rhanbarth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio gydag ysbytai lleol ac eraill i ddarparu gofal GIG, yn ogystal ag awdurdodau lleol, partneriaethau, elusennau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Mae’n bwysig ein bod yn cynnwys pobl leol yn ein gwaith – pobl o bob rhan o’n cymunedau amrywiol.
Mae eich barn, eich profiad o iechyd a gofal a’ch syniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal mewn perthynas â phlant ac ieuenctid yn bwysig iawn. Rydym yn ymwybodol o bwysicrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn wedi eu llywio gan y rhai yr ydym yn eu gwasanaethu.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, mae croeso i chi fynychu nifer o ddigwyddiadau galw heibio, naill ai mewn person neu ar-lein er mwyn rhannu eich barn. Cynhelir digwyddiadau ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ym mhob digwyddiad, bydd cyfle i chi siarad ag uwch staff y bwrdd iechyd ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal plant ac ieuenctid.
Mae’r digwyddiadau hyn ar agor i bawb, felly p’un a ydych yn riant neu’n ofalwr neu ond â diddordeb mewn iechyd a gofal plant, rydym yn eich annog i fynychu.
Bachwch ar y cyfle i gymryd rhan a dweud eich dweud.