Neidio i'r prif gynnwy

A fydd datblygiadau cymunedol yn barod cyn yr ysbyty newydd?

Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol ac yn broses hir, ond os oes cyllid ar gael, rydym am gyflawni’r datblygiadau hyn cyn yr ysbyty newydd.

Mae ein Hachos Busnes Rhaglen yn amlinellu gwahanol opsiynau ar gyfer cyflwyno'r gwaith adeiladu fesul cam ar gyfer gwahanol rannau o'r rhaglen.

Ym mhob achos, y nod yw gweld hybiau cymunedol yn cael eu hagor ar wahanol adegau hyd at ddiwedd 2029, ochr yn ochr ag adeiladu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd erbyn yr un dyddiad targed.

Mae opsiynau gwahanol ar gyfer adnewyddu neu ailadeiladu Glangwili a Llwynhelyg fel ysbytai cymunedol, yn ogystal â’r buddsoddiad yn ysbytai Bronglais a Thywysog Philip. Amlinellir y rhain yn fanwl ar dudalennau 152-154 o Achos Busnes Rhaglen llawn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: