Mae pobl o gymunedau ar draws y tair sir wedi helpu i sgorio pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd mewn parth sy’n cynnwys Arberth a Sanclêr a rhyngddynt.
Digwyddodd y gweithdy ar ddydd Mawrth 28 Mehefin ac fe oedd yn cynnwys y gwaith sgorio gan gynrychiolaeth y mae’r rhan fwyaf ohoni yn aelodau’r cyhoedd o bob rhan o’n rhanbarth ac mae’n cynnwys cyfranogwyr â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Roedd gan y rhai waeth fynychu'r gweithdy fynediad at adroddiadau gwerthuso technegol cryno am bob un o'r pum safle. Er mwyn sicrhau didwylledd a thryloywder, rydym wedi uwchlwytho'r dogfennau yma i'r cyhoedd eu gweld.
Rydym yn ymwybodol nad yw’r dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn yr adran hon yn cydymffurfio â’r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth dechnegol, mae croeso i chi eu gofyn inni mewn ebost - Capital-Planning.HDD@wales.nhs.uk.