Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad ar Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.
Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol.
Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch Hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk.
Buom yn ymgynghori â'r cyhoedd am 12 wythnos rhwng 28 Ebrill a 22 Gorffennaf 2025 ar sut y bydd gwasanaethau mân anafiadau yn cael eu darparu yn Uned Mân Anafiadau (MIU) Ysbyty Tywysog Philip. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben ond gallwch weld y wybodaeth am yr ymgynghoriad isod.
O 1 Tachwedd 2024, newidiwyd oriau agor Uned Mân Anafiadau (MIU) Ysbyty Tywysog Philip i 8:00am - 8:00pm bob dydd (yn hytrach na 24 awr y dydd). Rhoddwyd y newid hwn ar waith i ddiogelu cleifion a staff, yn rhannol oherwydd prinder meddygon teulu sydd ar gael i gwmpasu'r MIU dros nos.
Proses ymgysylltu
Fe wnaethom weithio gyda'n staff a'n cymuned i ystyried model clinigol tymor hwy (ffordd o ddarparu gofal). Y nod oedd diwallu anghenion poblogaeth Llanelli a'r cymunedau cyfagos a safonau ansawdd iechyd a gofal.
Cynhaliwyd gweithdai ymgysylltu gyda nyrsys, clinigwyr, y gwasanaeth ambiwlans, meddygon teulu y tu allan i oriau, aelodau grŵp ymgyrchu, a phobl yn ein cymuned a fynegodd ddiddordeb (cynrychiolwyr o blith y rhestr hon a ddewiswyd ar hap). Ystyriodd y sesiynau hyn opsiynau posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, gan gynnwys dychwelyd i'r model blaenorol 24/7. Ystyriodd y Bwrdd Iechyd y gwaith hwn yn ei gyfarfod cyhoeddus ym mis Medi 2025, lle gwnaed penderfyniad terfynol.