Mae ein tîm amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i ymgysylltu â staff a meithrin perthnasoedd â nhw er mwyn helpu i ddileu gwahaniaethu, cynyddu cydraddoldeb, a gwella dealltwriaeth rhwng grwpiau gwahanol. Ewch i'n tudalen we ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yma (yn agor mewn tab newydd).
Rhwydweithiau Hywel Dda
Mae gennym nifer o rwydweithiau i gyflogeion ymuno â nhw, er enghraifft: Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog; Enfys (LHDTC+); Rhwydwaith Cymorth Cymheiriaid Staff Gofal; Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; Caffi'r Menopos; a mwy. Ewch i'n tudalen sydd â gwybodaeth am yr holl rwydweithiau staff sydd ar gael yn Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd). Gallwch ddarllen rhagor am weithredu cadarnhaol yma (yn agor mewn tab newydd).
Gweithredu cadarnhaol
Rydym am i'n staff gynrychioli ein cymunedau, ac rydym yn ymrwymedig i wneud cydraddoldeb yn realiti. Rydym yn annog pobl o bob cefndir a grŵp ethnig i ymgeisio am ein swyddi. Gallwch ddarllen rhagor am weithredu cadarnhaol yma (yn agor mewn tab newydd).