Yn gynharach eleni, dywedodd y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i:
Bydd y mwyafrif o bractisau meddygon teulu a nifer o fferyllfeydd cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn darparu dos atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn, gyda chefnogaeth y bwrdd iechyd a fydd yn defnyddio canolfannau brechu yn Llanelli, Neyland a Chwm Cou, a lleoliadau cymunedol eraill yn ôl yr angen.
Bydd rhaglen dos atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 yn rhedeg tan 30 Mehefin, 2024 gyda rhywfaint o hyblygrwydd cyfyngedig tan fis Gorffennaf ar gyfer y rhai na allant dderbyn pigiad atgyfnerthu o fewn prif ffenestr y rhaglen, oherwydd salwch.
Bydd rhaglen atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn canolbwyntio ar y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn gyntaf. Bydd pobl gymwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gwahodd i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn tua 6 mis ar ôl eu dos olaf ond caiff ei roi o 3 mis ar ôl y brechlyn diwethaf.
Bydd unrhyw un sy’n troi’n 75 oed rhwng Ebrill a Mehefin yn cael eu galw am frechu yn ystod yr ymgyrch.
Gofynnir i bobl aros i gael apwyntiad i gysylltu â nhw, ond os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau am y pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn a sut i gael gafael arno, cysylltwch â hyb cyfathrebu BIP Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu ask.hdd@wales.nhs.uk