Mae’r PBC yn cydnabod yr angen i greu seilwaith digidol a fydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i gysylltu â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth ym mhob lleoliad, gan greu system iechyd ‘heb waliau.’ Byddai hyn yn cynnwys arloesiadau, megis nwyddau gwisgadwy, cofnodion iechyd electronig mwy datblygedig a mwy o ddefnydd o dechnoleg i symleiddio prosesau gan gynnwys derbyn a rhyddhau.