Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi agor dwy Uned Profi Coronavirus (UPC) i helpu i amddiffyn iechyd ein cymunedau yn ystod yr achosion o COVID-19.
Mae'r unedau yn Aberteifi a Chaerfyrddin a gall mwy agor mewn rhannau eraill o'r bwrdd iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf i ganiatáu i'r bwrdd iechyd asesu, a phrofi mwy o bobl, gan eu hamddiffyn hwy a'n cymunedau ehangach.
Mae Canolfannau Profi Cymunedol yn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd gynnal llawer mwy o brofion nag y gellir eu cynnwys trwy brofion cartref yn unig. Bydd pobl gymwys, trwy drefniant trwy'r gwasanaeth 111 a thrwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig, yn gwneud eu ffordd i'r unedau yn eu ceir eu hunain. Unwaith y tu mewn i'r uned, cynhelir prawf syml (gwddf a swab trwynol).
Bydd profion cartref yn parhau, trwy drefniant arbennig mewn rhai amgylchiadau.
Nid oes unrhyw risg i'r cyhoedd gan fod ystod o ragofalon a mesurau atal heintiau wedi'u hystyried a'u rhoi ar waith gan gynnwys protocolau clinigol llym, cyfarwyddyd penodol i'r rhai sy'n mynychu, defnyddio mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân, a defnyddio Offer Amddiffynnol Personol.
Ni fydd lleoliadau penodol yn cael eu cyhoeddi oherwydd yr angen i amddiffyn cyfrinachedd cleifion, caniatáu ar gyfer gwneud trefniadau wrth gefn ac ar gyfer diogelu ein staff ein hunain.
Ni ddylai aelodau'r cyhoedd gerdded i mewn i'r cyfleusterau hyn o dan unrhyw amgylchiadau. Maent ar gyfer pobl sydd ag apwyntiad a chyfarwyddyd ymlaen llaw yn unig trwy'r llwybr 111 a gallai unrhyw bresenoldeb arall amharu ar ein gallu i brofi ein cleifion.
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ros Jervis:
“Rydym yn hynod falch o’n staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n gweithio’n galed i amddiffyn iechyd ein cymunedau mewn ymateb i COVID-19.
“Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i weithredu ein hymateb cynlluniedig a'n mesurau rheoli heintiau llym.
“Fel byrddau iechyd eraill, rydym wedi bod yn cynnal profion ar gyfer COVID-19 yng nghartrefi pobl. Mae'r galw am hyn yn debygol o gynyddu, ac rydym wedi cynllunio gallu ychwanegol i ddelio â hyn trwy agor ein Unedau. Bydd hyn yn caniatáu inni gynnal llawer mwy o brofion ar gyfer cleifion priodol, sydd wedi defnyddio'r llwybr 111.
“Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ein cymunedau.”
Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych Coronavirus, peidiwch â mynychu'ch meddygfa, adran achosion brys yr ysbyty, unedau mân anafiadau neu unrhyw leoliad iechyd arall.
Bellach mae gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru. Oni bai eich bod wedi teithio i ardaloedd penodol teithio i ardaloedd penodol lle mae'n ofynnol i chi ddeialu 111, gwiriwch y wybodaeth ar y gwiriwr symptomau cyn i chi ffonio.
Gall pawb gymryd camau syml i aros yn iach, gan gynnwys hylendid sylfaenol da yn enwedig golchi'ch dwylo'n rheolaidd, defnyddio dŵr poeth a sebon neu lanweithydd dwylo. Os oes gennych symptomau annwyd a ffliw, defnyddiwch hances i'w ddal, ei finio a'i ladd.
Anogir aelodau'r cyhoedd i ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael mwy o wybodaeth gyhoeddus - http://icc.gig.cymru/coronafeirws