Bydd yn ofynnol i aelodau'r Is-bwyllgorau Pŵer Rhyddhau (yn dilyn cyfnod cychwynnol o hyfforddiant) fynychu gwrandawiadau fel aelod o'r panel i adolygu gorchmynion cadw a thriniaeth gymunedol. Ar ôl mynychu cyfnod ychwanegol o hyfforddiant ac ennill profiad, bydd aelodau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn paneli adolygu gan sicrhau bod adolygiadau’n cael eu cynnal yn unol â rheolau cyfiawnder naturiol (Cod Ymarfer Cymru MHA 1983).
Byddant yn sicrhau bod y seiliau ar gyfer parhau i gael eu cadw neu driniaeth gymunedol yn ddilys.
Bydd yn ofynnol i’r tri aelod panel gofnodi’n ffurfiol y dystiolaeth a ystyriwyd wrth ddod i’w penderfyniad, y rhesymau dros y penderfyniad, a’r penderfyniad ei hun. Bydd y cadeirydd yn rhoi'r rhesymau dros y penderfyniad i'r claf a phartïon perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r adolygiad. Bydd gweinyddwr profiadol yn bresennol yn yr adolygiadau i helpu i gefnogi a chydlynu aelodau a rheolaeth yr adolygiad.
Gellir cynnal adolygiadau o bell trwy ddefnyddio MS Teams neu wyneb yn wyneb mewn wardiau cleifion mewnol neu leoliadau cymunedol ar draws y Bwrdd Iechyd. At ddibenion adolygiadau o bell a derbyn gwybodaeth, darperir llechen gyfrifiadurol i aelodau penodedig.
Byddant yn cofnodi unrhyw argymhellion a/neu sylwadau priodol sy'n codi o wrandawiadau.