Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd a’r ffordd yr ydym yn trin ein staff, cleifion ac eraill yn adlewyrchu eu hanghenion unigol ac na fydd unigolion neu grwpiau yn wynebu gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth, neu gael eu trin yn llai ffafriol ar sail rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred, amgylchiadau teuluol gan gynnwys priodas a phartneriaeth sifil. I'r perwyl hwn mae gan y Bwrdd Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Pholisi a Gweithdrefn Asesu Effaith Cydraddoldeb y mae'n rhaid gweithredu arnynt.