Pensiwn y GIG
Mae cynllun pensiwn y GIG yn parhau i fod yn un o'r cynlluniau mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael yn y DU. Mae aelodaeth o’r cynllun yn awtomatig pan fyddwch yn ymuno â ni, a byddwn ni, eich cyflogwr, yn talu cyfraniad at eich pensiwn sy’n cyfateb i 14.3% o’ch cyflog.
Gwyliau blynyddol
Yn Hywel Dda rydym yn cynnig gwyliau blynyddol hael i’n staff, sef 28 diwrnod (pro rata) ynghyd ag wyth gŵyl banc. Bydd hyn yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth, a 34 diwrnod ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
Gofal Plant
Mae Hywel Dda yn falch o fod â crèche ar safleoedd pob un o’n hysbytai acíwt, neu o fewn pellter cerdded iddynt. Gallwch gael hyd at £500 bob tri mis ar gyfer pob un o’ch plant i helpu gyda chostau gofal plant trwy ymuno â chynllun y llywodraeth Cofrestrwch i gael gofal plant di-dreth ar wefan y llywodraeth yma (yn agor mewn tab newydd)..
Cynaliadwyedd amgylcheddol
Rydym yn ymrwymedig i gyflawni ein cyfrifoldebau stiwardiaeth byd-eang a sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae gennym strategaeth ddatgarboneiddio uchelgeisiol sy’n ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a sicrhau ein bod yn cyfrannu at darged Cymru i fod yn sero net erbyn 2050.