Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn profi problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer, bydd y rhain yn datrys eu hunain gydag amser, tra bydd eraill angen cefnogaeth broffesiynol.
Mae'n gallu bod yn wirioneddol anodd fel rhiant i wybod a oes rhywbeth yn poeni eich plant, neu yntau newid hwyliau arferol neu newid / datblygu hormonaidd sydd yn achosi eu hymddygiad. Dyma ffyrdd o adnabod pryd mae rhywbeth o'i le. Maent yn bethau i edrych allan amdanynt:
Y peth pwysicaf i'w gofio yw mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau, ac os ydych chi'n poeni, ystyriwch a fu newid sylweddol yn eu hymddygiad sydd wedi para am dros gyfnod o amser. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu goleg; gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain; neu mewn perthynas â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn eu bywyd, gan gynnwys newidiadau oherwydd y pandemig.
Os ydych chi'n bryderus neu'n ansicr, mae llawer o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiyno. Mae Dewis Cymru yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’ch Canolfan Plant leol. Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:
Am ddolenni a gwasanaethau defnyddiol i'ch plentyn cliciwch yma.