Efallai y gwelwch nad oes gennych gymaint o egni ar ôl bod yn sâl ac efallai y byddwch yn blino'n gyflym iawn. Mae hyn yn normal, gadewch amser i'ch hun a'ch corff wella.
Ceisiwch gael trefn ddyddiol, os nad yw eich trefn flaenorol yn bosib, gosodwch un newydd am y tro a'i dilyn a newid yn ôl i'ch trefn arferol yn araf pan allwch chi. Cofiwch, peidiwch â rhuthro!
Mae adferiad yn gydbwysedd rhwng gorffwys a gweithgaredd. Rhowch gynnig ar ychydig bach o weithgaredd ysgafn yn gyntaf ac yna gorffwyswch ychydig. Ailadroddwch hyn. Dewch o hyd i'r lefel sy'n gyffyrddus i chi - efallai y byddwch chi'n fwy blinedig y diwrnod ar ôl gwneud gweithgaredd, felly arhoswch i weld sut rydych chi'n teimlo cyn gwneud mwy. Byddwch yn realistig ac yn garedig â chi'ch hun.
Mae gan bob un ohonom bethau yr ydym angen eu gwneud ac eisiau eu gwneud yn ystod ein dydd. Ar ôl bod yn sâl, mae'n ddefnyddiol blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y tasgau sydd bwysicaf i chi.
Ceisiwch wneud rhestr o'r pethau yr hoffech chi eu gwneud heddiw neu'r wythnos hon. Rhestrwch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys cawod, gwisgo a bwyta, gan fod y rhain i gyd yn defnyddio egni hefyd.
Ar gyfer eich rhestr, gofynnwch hyn i’ch hun:
Gall cynllunio a gwneud pethau’n raddol eich helpu i gyflawni eich gweithgareddau trwy reoli eich lefelau blinder ac egni. Gall amserlen a graddio tasgau yn ôl pa mor anodd ydynt i chi eich helpu i gynllunio eich diwrnod a’ch wythnos.
Un ffordd o gynllunio a gwneud pethau’n raddol yn ystod y diwrnod a’r wythnos yw defnyddio’r system goleuadau traffig. Gwnewch tasgau hawdd ac anoddach am yn ail.
COCH – Gweithgareddau anodd
AMBR – Gweithgareddau hawdd
GWYRDD – Gorffwys
Mwy o awgrymiadau a allai helpu
Os oes dal gennych bryderon ynghylch eich lefelau egni, eich llesiant corfforol ach llesiant meddwl, dylech geisio cyngor eich Meddyg Teulu. Gall eich Meddyg Teulu wirio a oes unrhyw achos arall am y symptomau parhaus a’ch cyfeirio at wasanaethau eraill yn ôl yr angen.
Gall eich therapydd galwedigaethol cymunedol lleol eich helpu ymhellach gyda rheoli eich blinder:
0300 333 2222
01545 574000
01437 774090
01437 773068