Dal ati i ddysgu
Rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Ailgydio mewn hen ddiddordeb. Cofrestru ar y cwrs hwnnw. Cymryd cyfrifoldeb gwahanol yn y gwaith. Trwsio beic. Dysgu canu offeryn neu sut i goginio eich hoff fwyd. Gosod her y byddwch yn mwynhau ei chyflawni. Bydd dysgu pethau newydd yn hwyl ac yn rhoi hwb i'ch hyder.