Gwneir diagnosis o gamweithrediad y coluddyn trwy hanes meddygol ac archwiliadau yn bennaf. Gall y meddyg argymell rhagor o brofion megis pelydrau-X neu Golonosgopi (prawf camera). Efallai y bydd angen cynnal profion arbenigol eraill i ganfod union achos camweithrediad y coluddyn.