Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio dŵr wrth esgor (geni mewn dŵr)

Mae ymchwil wedi dangos bod esgor mewn dŵr yn llai poenus, ac y bydd yna lai o debygrwydd y bydd arnoch angen epidwral i bylu'r boen. Mae rhai pobl yn pryderu y gallai eich baban amlygu arwyddion o drallod yn ystod y cyfnod esgor os yw’r dŵr yn rhy gynnes, ond mae astudiaethau wedi dangos nad oes yna fwy o risg i chi na’ch baban o dreulio eich cyfnod esgor mewn dŵr na phe byddech yn esgor heb fod mewn dŵr. Bydd y fydwraig yn parhau i fonitro eich cynnydd a llesiant eich baban.

Bydd y dŵr yn cael ei gadw ar dymheredd cyfforddus, ond dim uwch na 37.5°C, a bydd eich tymheredd chi yn cael ei fonitro.

Mae pyllau geni ar gael ym mhob uned famolaeth ledled Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys ar y wardiau esgor. Gofynnwch i'ch bydwraig am ragor o wybodaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: