Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae fitamin K trwy'r geg yn cael ei roi?

Os byddwch yn dewis rhoi fitamin K trwy'r geg i'ch baban, bydd yn cael y dos cychwynnol adeg ei eni. Bydd eich bydwraig yn dangos i chi sut y caiff ei roi.


Bydd angen i chi roi'r ail ddos o fitamin K trwy'r geg i'ch baban pan fydd yn wythnos oed.


Bydd y fydwraig yn rhoi'r chwistrell geg a'r ampwl Fitamin K i chi.  


Os ydych yn bwydo ar y fron, argymhellir eich bod yn rhoi dos arall i'ch baban pan fydd yn bedair wythnos oed. Y rheswm am hyn yw nad yw llaeth y fron yn cynnwys digon o fitamin K i fodloni'r argymhellion.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: