Yn 1992, awgrymodd un astudiaeth fod fitamin K a roddir trwy bigiad yn gysylltiedig â risg uwch o ganser yn ystod plentyndod na rhoi fitamin K trwy'r geg neu beidio â rhoi fitamin K o gwbl. Achosodd yr astudiaeth hon bryder ac, ers peth amser, mae ysbytai wedi bod yn rhoi fitamin K trwy'r geg i fabanod newydd-anedig. Nid yw ymchwil bellach mewn sawl gwlad oddi ar 1992 wedi cadarnhau'r cysylltiad rhwng y pigiad fitamin K a chanser yn ystod plentyndod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch i'ch bydwraig.