Neidio i'r prif gynnwy

Dull 3: Balŵn serfigol

Mae balŵn serfigol yn fodd mecanyddol o gymell y geni gan nad yw'n cynnwys unrhyw feddyginiaethau.

Mae'r driniaeth hon yn cael ei chynnal gan y meddygon ar y ward esgor, ac mae'n golygu gosod tiwb rwber meddal trwy wddf y groth. Pan fydd yn ei le, bydd y meddyg wedyn yn enchwythu dau falŵn y tu mewn i'r tiwb; un uwchlaw gwddf y groth ac un islaw iddo. Mae'r balwnau yn rhwbio yn erbyn gwddf y groth ac yn ei ymestyn, gan achosi iddo gynhyrchu hormon a elwir yn prostaglandin. Mae'r prostaglandin yn achosi i wddf y groth fyrhau a meddalu (aeddfedu). Mae hyn yn paratoi gwddf y groth ar gyfer esgor ac yn caniatáu i'ch bydwraig neu eich meddyg dorri eich dŵr.

Pan fydd y balwnau yn eu lle, byddwch yn dychwelyd i'r ward dros nos cyn mynd yn ôl i'r ward esgor yn y bore ar gyfer tynnu'r balwnau a thorri eich dŵr. Byddwch fel arfer yn cael cynnig balŵn os oes yna reswm pam y byddai'n fuddiol i chi beidio â chael y meddyginiaethau; er enghraifft i osgoi rhoi unrhyw straen ar eich craith os ydych wedi cael genedigaeth Gesaraidd flaenorol, neu am eich bod wedi cael adwaith i'r meddyginiaethau i gymell y geni sydd wedi achosi i chi gyfangu gormod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: