Y cyfnod cynnar yw'r enw ar y cyfnod pan fo'r esgor yn dechrau. Dyma pryd y mae gwddf eich croth yn meddalu a theneuo wrth baratoi i agor (ymledu) fel y gall eich baban gael ei eni.
Er mwyn i hyn ddigwydd, byddwch yn dechrau profi cyfangiadau (tynhau), a all fod yn afreolaidd ac amrywio o ran eu hamlder, eu cryfder a'u hyd. Mae'n bosibl y byddwch yn cael llawer o gyfangiadau rheolaidd, ac yna gallant arafu neu ddod i ben yn gyfan gwbl.
Pan fyddwch yn cael cyfangiad, mae eich croth yn tynhau ac yna'n ymlacio. I rai pobl, gall cyfangiadau deimlo fel poenau misglwyf eithafol. Mae rhai menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn dweud eu bod yn teimlo poen yn eu cefn a'u morddwydydd yn lle poen ym mlaen eu bwmp, neu gallant brofi'r boen hon yn ogystal.