Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymiadau ar gyfer eich partner geni

Person beichiog

Pwy bynnag yw eich partner geni – rhiant y baban, ffrind agos, partner, neu berthynas – mae yna lawer o bethau ymarferol y gall eu gwneud i’ch helpu.

Y peth pwysicaf y gall eich partner geni ei wneud yw bod yn gwmni i chi.

Siaradwch â'ch partner geni am y math o enedigaeth yr hoffech ei chael a'r pethau y byddai'n well gennych beidio â'u gwneud, fel y gall helpu i gefnogi eich penderfyniadau. Gall fod o help mynd trwy eich dewisiadau geni gyda'ch gilydd.

Nid oes modd gwybod o gwbl beth a fydd hyd a lled eich cyfnod esgor, na sut y bydd y naill na'r llall ohonoch yn ymdopi, ond mae yna lawer o ffyrdd y gall partner eich helpu.

Pa fath bynnag o enedigaeth yr ydych yn cynllunio ar ei chyfer, gall eich partner geni wneud y canlynol:

  • bod yn gwmni i chi a helpu'r amser i fynd heibio yn ystod y camau cynnar
  • gafael yn eich llaw, sychu eich wyneb a rhoi llymeidiau o ddŵr i chi
  • tylino eich cefn a'ch ysgwyddau, a'ch helpu i symud o gwmpas neu newid ystum
  • eich cysuro wrth i'r cyfnod esgor fynd rhagddo ac wrth i'ch cyfangiadau gryfhau
  • eich atgoffa o'r modd i ddefnyddio technegau ymlacio ac anadlu, gan efallai anadlu ar y cyd â chi os yw hynny'n helpu
  • cefnogi eich penderfyniadau, megis eich dewis o ddull lleddfu poen, hyd yn oed os ydynt yn wahanol i'r hyn sydd yn eich cynllun geni
  • eich helpu i egluro i’r fydwraig neu’r meddyg yr hyn y mae arnoch ei angen – a’u helpu nhw i gyfathrebu â chi – elfennau a all eich cynorthwyo i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros y sefyllfa
  • dweud wrthych beth sy'n digwydd wrth i'ch baban gael ei eni, hyd yn oed os na allwch weld yr hyn sy'n digwydd.

Mae'n bosibl y bydd eich partner geni yn gallu torri'r llinyn bogail – gallwch siarad â'ch bydwraig am hyn.

Ewch â byrbrydau gyda chi! Gall y cyfnod esgor fod yn broses hir, felly ewch â digonedd o fwyd a byrbrydau gyda chi fel y gallwch chi a'ch partner ddal ati.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: