Mae’r clefyd rhesws yn digwydd dim ond pan fydd gan y fam waed rhesws negatif (RhD negatif) a bod gan y baban yn y groth waed rhesws positif (RhD positif). Rhaid bod rhywbeth wedi peri i’r fam fod yn sensitif i waed RhD positif yn flaenorol hefyd.
Bydd menyw â gwaed RhD negatif yn datblygu sensitifrwydd pan fydd yn dod i gysylltiad â gwaed RhD positif, a hynny fel arfer trwy fod yn feichiog â baban RhD positif. Mae corff y fenyw yn ymateb i’r gwaed RhD positif trwy gynhyrchu gwrthgyrff (moleciwlau sy’n brwydro yn erbyn heintiau) sy’n adnabod y celloedd gwaed estron a’u dinistrio.
Os bydd menyw yn datblygu sensitifrwydd, y tro nesaf y bydd yn dod i gysylltiad â gwaed RhD positif, bydd ei chorff yn cynhyrchu gwrthgyrff ar unwaith. Os yw’n feichiog â baban RhD positif, gall y gwrthgyrff groesi’r brych, gan beri i’r baban gael y clefyd rhesws cyn ei eni. Gall y gwrthgyrff barhau i ymosod ar gelloedd gwaed coch y baban am rai misoedd ar ôl ei eni.