Neidio i'r prif gynnwy

Unedau bydwreigiaeth ochr yn ochr

Mae unedau bydwreigiaeth ochr yn ochr wedi’u lleoli mewn ysbytai, ond maent ar wahân i’r unedau obstetreg. Mae bydwragedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ofalu amdanoch yn ystod y cyfnod esgor ac yn eich cynorthwyo i eni’r baban yn naturiol trwy’r wain. Os bydd angen gofal meddygol arbenigol arnoch chi neu eich baban, neu os byddwch yn penderfynu cael epidwral i leddfu’r boen, bydd angen eich trosglwyddo i uned obstetreg ar yr un safle. Byddwch fel arfer yn cael eich trosglwyddo mewn gwely neu gadair olwyn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: