Mae unedau bydwreigiaeth annibynnol yn ganolfannau geni sydd wedi’u lleoli ar safleoedd ar wahân i’ch ysbyty agosaf ag uned obstetreg. Mae bydwragedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ofalu amdanoch yn ystod y cyfnod esgor ac yn eich cynorthwyo i eni’r baban yn naturiol trwy’r wain. Os bydd angen gofal meddygol arbenigol arnoch chi neu eich baban, neu os byddwch yn penderfynu cael epidwral i leddfu’r boen, bydd angen eich trosglwyddo i uned obstetreg a all fod rhai milltiroedd i ffwrdd. Fel arfer, byddwch yn cael eich trosglwyddo mewn ambiwlans.