Neidio i'r prif gynnwy

Ble i eni eich baban?

Bwriedir i’r canllaw hwn eich helpu i gynllunio lle i eni eich baban. Gallwch ei ddefnyddio eich hunan, a gall hefyd fod yn sail i drafodaethau â’ch bydwraig neu eich obstetregydd am y lle y byddech yn hoffi geni eich baban.

Tan yn ddiweddar, byddai bron pob menyw a pherson sy’n rhoi genedigaeth yn gwneud hynny ar wardiau esgor ysbytai (unedau obstetreg). Erbyn hyn, gwyddom nad yw hwn yn amgylchedd delfrydol i bob menyw/person sy’n rhoi genedigaeth, er bod ward esgor yn cael ei argymell ar gyfer menywod/pobl sy’n rhoi genedigaeth â chyflyrau iechyd neu os ydym eisoes yn gwybod am broblemau â’r baban. Os ydych chi a’ch baban yn iach, nad os oes yna berygl mawr o gymhlethdodau, ac nad ydych wedi cael toriad Cesaraidd o’r blaen, dylech gael cynnig dewisiadau eraill, megis uned bydwreigiaeth ‘ochr yn ochr [ag ysbyty]’ neu ‘annibynnol’, neu enedigaeth gartref. Mae’r canllaw hwn yn egluro pam y mae’r dewisiadau hyn yn bwysig.

Gweler ein tudalen ble i gael fy mabi? yma (agor mewn dolen newydd) am fanylion y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar draws y tair sir.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: