Mae trydydd cam y cyfnod esgor yn digwydd ar ôl geni’r baban pan fydd y groth yn cyfangu a’r brych yn dod allan trwy’r wain.
Mae dwy ffordd o reoli’r rhan hon o’r cyfnod esgor:
Bydd eich bydwraig yn egluro’r ddau ddull i chi pan fyddwch yn feichiog, neu’n gynnar yn ystod y cyfnod esgor, er mwyn i chi benderfynu ar eich dewis chi.
Mewn rhai sefyllfaoedd, nid yw rheolaeth ffisiolegol yn cael ei argymell. Gall eich bydwraig neu eich meddyg egluro os yw hyn yn berthnasol i chi.