Mae bwydydd a diodydd siwgraidd yn aml yn cynnwys llawer o galorïau, sy’n gallu achosi i chi ennill pwysau. Mae bwydydd a diodydd siwgraidd hefyd yn gallu arwain at bydredd dannedd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am bwydydd a diodydd siwgraidd (agor mewn dolen newydd)
Mae braster yn uchel iawn mewn calorïau, felly gall bwyta gormod o fwydydd brasterog neu eu bwyta’n rhy aml achosi i chi ennill pwysau. Mae bwyta gormod o fraster dirlawn hefyd yn gallu cynyddu swm y colesterol yn y gwaed, sy’n cynyddu’r siawns y byddwch yn datblygu clefyd y galon.
Cliciwch am fwy o wybodaeth am colesterol yma (agor mewn dolen newydd)
Mae bwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr neu’r ddau, yn cynnwys:
Os byddwch am gael bwydydd a diodydd llawn braster a siwgr, ceisiwch wneud hynny’n llai aml a chymryd llai ohonynt.
Ceisiwch fwyta llai o fraster dirlawn , a chael ychydig o fwydydd llawn braster annirlawn yn lle hynny, megis olewau llysiau.
Cliciwch am fwy o wybodaeth am fwyta llai o fraster dirlawn yma (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch i ddysgu fwy am fraster dirlawn ac annirlawn yma (agor mewn dolen newydd)