Gall defnyddio alcohol a chyffuriau anfeddygol fod yn wael i'ch iechyd meddwl. Mae'n bosibl bod rhai pobl hefyd yn defnyddio alcohol neu gyffuriau am fod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Ni fyddwch yn cael eich beirniadu os siaradwch â meddyg am ddefnyddio alcohol neu gyffuriau. Mae yno i'ch helpu a'ch cefnogi.
Siaradwch â'ch meddyg teulu os oes gennych broblemau iechyd meddwl. Bydd yn gallu eich atgyfeirio at wasanaethau arbenigol.