Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n feichiog ac rwyf wedi yfed ambell ddiod. Beth sy'n digwydd 'nawr?

Yn ôl cyngor y Prif Swyddog Meddygol, os byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog ar ôl yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd cynnar, dylech osgoi yfed rhagor. Dylech fod yn ymwybodol ei bod yn annhebygol, yn y rhan fwyaf o achosion, yr effeithiwyd ar eich baban. Y peth mwyaf diogel i'ch baban yw rhoi'r gorau i yfed yn gyfan gwbl.

Fodd bynnag, os ydych yn yfed yn rheolaidd ac yn drwm, efallai na fydd yn ddiogel i chi roi'r gorau iddi ar unwaith. Os ydych yn pryderu y gallech fod yn yfed mewn modd dibynnol, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch meddyg teulu neu eich bydwraig, neu'n cysylltu â'ch gwasanaeth arbenigol lleol i gael cyngor cyn ceisio lleihau faint yr ydych yn ei yfed, neu roi'r gorau i yfed.

Os ydych yn poeni am eich bod wedi yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd, neu os oes arnoch angen cymorth i roi'r gorau i yfed, siaradwch â'ch meddyg neu eich bydwraig. Gofynnwch am atgyfeiriad i'r gwasanaeth camddefnyddio sylweddau lleol i gael cymorth i ddadwenwyno/leihau faint yr ydych yn ei yfed. Gallwch hefyd hunangyfeirio drwodd Cliciwch i hunaingyfeirio trwy Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yma (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: