Neidio i'r prif gynnwy

Ble y dylwn gael fy mabi?

Ystafell geni yn Glangwili

Ar draws y tair sir, mae gennym wasanaethau gwahanol ar gael yn yr ysbytai a restrir isod.  Rydym yn cynnig genedigaethau yn y cartref ledled y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Sir Gaerfyrddin

Yn Ysbyty Glangwili, mae gennym hefyd uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy'n cael beichiogrwydd didrafferth. Mae gennym hefyd ward esgor dan arweiniad meddygon ar gyfer menywod y mae arnynt angen gofal ychwanegol gan ein meddygon a'n bydwragedd. Os bydd eich baban yn cael ei eni ar ôl 32 wythnos a bod arno angen gofal ychwanegol, gallwn ofalu amdano mewn Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU).

Cyfeiriad: Ward Dinefwr, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA31 2AF
Ffôn y Ward Cynenedigol: (01267) 221735
Ffôn yr Uned dan Arweiniad Meddygon Ymgynghorol: (01267) 227591 
Ffôn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd: (01267) 248640
Ffôn Ward Esgor y Meddygon Ymgynghorol: (01267) 227825

Ceredigion

Yn Ysbyty Bronglais, mae gennym uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy'n cael beichiogrwydd didrafferth.  Mae gennym hefyd ward esgor dan arweiniad meddygon ar gyfer menywod y mae arnynt angen gofal ychwanegol gan ein meddygon a'n bydwragedd. 

Mae'n bosibl y bydd yna adegau pan na allwn ofalu amdanoch chi neu eich baban yn Aberystwyth a bydd angen i chi gael eich baban yng Nghaerfyrddin.  Gallai rhai o’r rhesymau dros hyn fod:

  • os ydym yn gwybod y bydd ar eich baban angen gofal arbennig neu ofal newyddenedigol cyn iddo gael ei eni
  • os yw eich beichiogrwydd ychydig yn fwy cymhleth, er enghraifft eich bod yn disgwyl gefeilliaid neu fwy
  • os oes gennych ddiabetes sy'n ddibynnol ar inswlin, neu ddiabetes yn ystod beichiogrwydd a reolir gan inswlin
  • neu os byddwch yn dechrau esgor cyn 37 wythnos.

Os bydd eich baban yn cael ei eni a bod arno angen gofal ychwanegol, mae gennym ystafell newyddenedigol lle gallwn fynd â’ch baban nes y gellir mynd ag ef i uned fwy arbenigol.

Cyfeiriad:  Ward Gwenllian, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1ER
Ffôn:  (01970) 635633

Sir Benfro

Yn Ysbyty Llwynhelyg, mae gennym uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy’n cael beichiogrwydd didrafferth.  Mae gennym glinigau cynenedigol dan arweiniad meddygon ar gyfer y menywod hynny y mae arnynt angen gofal ychwanegol a byddant yn cael eu babanod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Cyfeiriad: Uned Dan Arweiniad Bydwragedd, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PZ
Ffôn:  (01437) 773306

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: