Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chaplaniaeth, elusennau, y gwasanaeth marwdy a gwasanaethau profedigaeth arbenigol i sicrhau bod gennych y cymorth sydd ei angen arnoch. Byddwn bob amser yn parchu eich anghenion ysbrydol a diwylliannol.
Gallwn gysylltu â’r gwasanaeth archwilydd meddygol a helpu i’ch arwain drwy’r broses gofrestru. Gallwn roi cyngor i chi am y dystysgrif feddygol achos marwolaeth ac unrhyw ofynion cyfreithiol eraill.
Gallwn helpu i gael tystysgrif marwolaeth, drwy gysylltu â swyddfa’r cofrestrydd, gwasanaeth yr archwilydd meddygol, a swyddfa crwner EF.