Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau atal cenhedlu

Mae atal cenhedlu brys (bilsen bore wedyn) ar gael am ddim i bobl 13 oed a hŷn. Rhaid iddo gael ei ddarparu gan fferyllydd achrededig. Bydd yn cynnwys asesiad cyfrinachol i ddarganfod y math mwyaf priodol o atal cenhedlu brys. Argymhellir eich bod yn gwirio gyda'r fferyllfa cyn mynychu a oes fferyllydd achrededig ar gael.

Gall dull atal cenhedlu pontio hefyd ddarparu cyflenwad 3 mis o bilsen atal cenhedlu. Gall y gwasanaeth hwn bontio'r bwlch i'r claf wrth iddynt geisio cyngor ar eu hopsiynau a phenderfynu ar ddewis ar gyfer dull hirdymor. Mae'r gwasanaeth fferyllfa yn cynnig mynediad cyfleus i gleifion ac yn aml nid oes angen apwyntiad.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd). Yna dewiswch o'r rhestr ar yr ochr chwith.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: