Dim ond man aros bach sydd, felly os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y gofynnir i chi aros yn eich car.
Pan fyddwch yn cyrraedd y clinig, byddwch naill ai'n cael eich gweld gan y meddyg RDC neu'n cael eich cludo i'r adran pelydr-x yn gyntaf. Pan fyddwch chi'n gweld y meddyg am y tro cyntaf, bydd yn cymryd hanes ac yn eich archwilio. Gwisgwch ddillad llac a chyfforddus y gellir eu tynnu'n hawdd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, fe'ch anogir i ofyn i staff y clinig. Bydd y meddyg neu'r nyrs yn trefnu i'ch gweld neu i gysylltu â chi yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i fynd drwy'ch canlyniadau a'r camau nesaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl eich apwyntiad, mae croeso i chi ffonio’r tîm ar: 01269 820328.
Yn fuan ar ôl eich apwyntiad, byddwn yn ysgrifennu at eich meddyg teulu gyda manylion eich ymweliad â'r clinig.