Dylid cymryd ystod o gamau i sicrhau nad oes unrhyw bethau annisgwyl i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt ddisgwyliadau clir ynghylch sut a pham y defnyddir eu gwybodaeth gyfrinachol, a pha ddewisiadau sydd ganddynt am hyn. Bydd y camau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y defnydd. Fel isafswm, dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth hygyrch, berthnasol a phriodol - mewn rhai achosion, bydd angen mwy o ymgysylltu.