Mae ein dyletswyddau cyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn dangos i ni sut y gallwn sicrhau ein bod yn defnyddio ystyriaethau cydraddoldeb yn ein dyletswyddau o ddydd i ddydd i wneud cymdeithas decach i'n staff, cleifion, ymwelwyr a'r cyhoedd.
Mae'n ofynnol i ni:
- Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon, ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd dan y Ddeddf
- Ehangu cyfle cyfartal rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl hebddynt
- Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a phobl sydd ddim
I wneud hyn dylem:
- Cael gwared ar neu finimeiddio’r anfanteision mae pobl yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig
- Cymryd camau i gyflawni anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae anghenion y bobl hyn yn wahanol i anghenion pobl eraill
- Annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gyfrannu’n llawn at fywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae cyfran annodweddiadol o isel o bobl benodol yn cymryd yn rhan
Gallai cyflawni’r ddyletswydd hon gynnwys trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill, cyn belled nad yw hyn yn mynd yn groes i ddarpariaethau eraill y Ddeddf.