Mae ein huchelgais i gyflawni Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a chyflawni drwy ein Hachos Busnes Rhaglen, yn rhan o’n hymateb i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau, a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Ddeddf yn enwi pum ffordd o weithio y byddwn yn eu mabwysiadu:
• Hirdymor
• Integreiddio
• Cymryd rhan
• Cydweithio
• Atal
Bydd ein strategaeth iechyd a gofal, a’r ysbyty newydd, yn cyfrannu at y saith nod llesiant, sef:
• Cymru lewyrchus
• Cymru gydnerth
• Cymru iachach
• Cymru fwy cyfartal
• Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
• Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
• Cymru o gymunedau cydlynus