Mae ein hen adeiladau yn arwain at aneffeithlonrwydd ynni a charbon, er enghraifftYsbyty Glangwili yw un o’r safleoedd aciwt (prif) lleiaf ynni-effeithlon yng Nghymru. Mae llawer o resymau am hyn gan gynnwys adeiladau hŷn, lefelau uchel o waith cynnal a chadw sydd wedi cronni, systemau inswleiddio a gwresogi gwael, a defnyddio olew fel prif ffynhonnell tanwydd.