Mae Gareth yn 38 oed ac yn byw yn Nhalybont, Ceredigion. Ar ei daith feicio dydd Sadwrn gyda’r ‘Wheelers’, mae Gareth mewn gwrthdrawiad â char, ger Aberaeron. Mae meddygon o’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn cyrraedd y lleoliad.
Ar hyn o bryd byddent yn mynd â Gareth i Ysbyty Glangwili, sydd 31 milltir i ffwrdd, gan mai dyma’r uned drawma leol dros dro tra byddwn yn aros am Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.
Yn y dyfodol, pe bai gennym Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio, byddai Gareth yn cael ei gludo’n syth i’r ysbyty hwn. Byddai’r daith i’r ddau opsiwn safle yn Hendy-gwyn tua 36 milltir o leoliad y ddamwain yn Aberaeron, neu 37 milltir i’r safle yn Sanclêr. Mae’r gwahaniaeth mewn amser teithio rhwng y tri safle yn ddibwys ac yn annhebygol o arwain at unrhyw effaith ar amseroldeb i gael mynediad at ofal i Gareth.