Dyma’r tri safle posibl ar gyfer ysbyty newydd sy'n cael eu datblygu ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd:
- Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf ac wedi'i leoli rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn i'r dwyrain a Spring Gardens i'r de.
- Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf.
- Tir amaethyddol ar hen gaeau Bryncaerau, a leolir gerllaw cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-pysgod) i'r de, pentref Pwll Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.