Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio i wasanaeth cyswllt addysg

Mae'r Gwasanaeth Cyswllt Addysg yn cynnwys y pedwar maes o nyrsys cofrestredig a bydwraig, sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd arbenigol a chymwysterau proffesiynol.

Fel gwasanaeth, rydym yn dylanwadu ar safon cyfleoedd dysgu mewn lleoliadau clinigol, ynghyd â'u gwella a'u datblygu, a hynny ar gyfer myfyrwyr nyrsio cyn cofrestru a bydwragedd, a'r rhai sy'n dychwelyd i weithio. Rydym hefyd yn cefnogi mentoriaid a myfyrwyr mewn modd ymarferol, ac yn cyflwyno hyfforddiant ar fentoriaeth, diweddariadau blynyddol ac adolygiadau teirblwydd, ynghyd â darparu hyfforddiant i fentoriaid ar ddwyn mentora i ben. Yn unol â'r hyn sy'n ofynnol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), rydym yn gyfrifol am gynnal y gofrestr/gronfa ddata o fentoriaid lleol. Trwy'r Rhaglen Preceptoriaeth, rydym yn cefnogi cyfnerthu proffesiynol ar gyfer nyrsys a bydwragedd sydd newydd gofrestru, gan ddarparu arweiniad ar bob mater sy'n ymwneud â nyrsio cyn cofrestru, a hefyd yn darparu addysg bydwreigiaeth i staff byrddau iechyd. Rydym yn gweithio ar y cyd â Cholegau Gwyddorau Dynol ac Iechyd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr cyn cofrestru a nyrsys a bydwragedd sydd newydd gofrestru yn cael eu cefnogi trwy gyfrwng prosesau mentora a phreceptoriaeth o safon uchel.

Mae ein gwasanaeth yn cefnogi myfyrwyr a thimau ledled pob arbenigedd acíwt a chymunedol, gan gynnwys y canlynol:

  • Ardaloedd Cyffredinol Oedolion (mewn ysbytai acíwt a chymunedol fel ei gilydd)
  • Iechyd Meddwl
  • Anableddau Dysgu
  • Pediatreg
  • Cymunedol – Nyrsio Ardal, Nyrsio mewn Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol, y sector preifat ac annibynnol
 

Y rhesymau dros weithio i ni

Fel bwrdd iechyd, rydym yn darparu rhaglen breceptoriaeth gadarn a chefnogol ar gyfer pob nyrs a bydwraig sydd newydd gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae ein tîm ymroddedig yn cynnwys nyrsys o bob un o'r pedwar maes nyrsio, a bydwraig, sy'n golygu ein bod yn gallu darparu cymorth arbenigol ar gyfer pob aelod o staff, a hynny gan ddefnyddio ein blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth am y bwrdd iechyd, nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rydym yn cydweithio'n rheolaidd ledled Cymru a thu hwnt er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwn o'r safon orau y gall fod, a'i fod yn dilyn yr arferion cyfredol gorau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

 

Rhaglen Diwtoriaeth Nyrsio

Mae ein rhaglen Diwtoriaeth Nyrsio yn un o’r amryw resymau i ymuno â thîmau nyrsio Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’r ffilm fer hon yn dangos sut ‘rydym yn darparu rhaglen diwtoriaeth gefnogol a chadarn ar gyfer pob nyrs sydd newydd gymhwyso, bydwragedd a'r rhai sydd am ddychwelyd i ymarfer. Mae'n arddangos timau ymroddgar o nyrsys o bob maes, yn cynnwys bydwreigiaeth, ddarparu cefnogaeth argebigol i bob aelod o staff.

Yn y ffilm fer hon, mae nyrs Anableddau Dysgu Iola Morris yn siarad am ei phrofiad o'r rhaglen Tiwtoriaeth Nyrsys mae Hywel Dda yn ei chynnig.

Yn y ffilm fer hon, mae nyrs Anableddau Dysgu Lauren Eden yn siarad am ei phrofiad o'r rhaglen Tiwtoriaeth Nyrsys mae Hywel Dda yn ei chynnig.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Enw: Tina Coleman - Arbenigwr Ymgyrch Recriwtio 
Rhif Ffôn: 01267 266292
Ebost: tina.coleman@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: