Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda

Mae Hywel Dda wedi ymrwymo i ddatblygu galluogrwydd meddygon i arwain, ac rydym yn ymfalchïo yn y gyfres o raglenni arweinyddiaeth feddygol ac amlddisgyblaethol yr ydym wedi eu creu sy'n hyrwyddo, yn cefnogi ac yn annog datblygiad a gwelliant parhaus.

Mae Hywel Dda yn sefydliad sy'n ceisio darparu system gofal iechyd o'r safon uchaf, gyda chanlyniadau rhagorol i'n cleifion a'n poblogaeth. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff a'r gwaith y maent yn ei wneud, ac rydym am i bob aelod o staff, ar bob lefel ac ymhob rôl, deimlo eu bod yn gymwys ac wedi'u grymuso i wneud y newidiadau y maent yn gwybod a fydd yn gwella profiad a chanlyniadau gofal y claf.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae ar Hywel Dda angen cymuned o feddygon ledled y sefydliad a all arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau clinigol rhagorol.

 

 

Rhaglen Meddygon Ymgynghorol Newydd

Wrth ddechrau mewn swydd, bydd pob meddyg ymgynghorol sydd newydd ei benodi yn cael ei gofrestru ar raglen ddatblygu blwyddyn o hyd. Mae'r rhaglen yn cynnwys tri modiwl, a bydd yn cael ei darparu dros gyfnod o 12 mis. Nod y 'Rhaglen Meddygon Ymgynghorol Newydd' yw adeiladu ar y prosesau cynefino sefydliadol ac adrannol, fel ei gilydd, i sicrhau bod pob meddyg ymgynghorol newydd yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi yn ei rôl.

Mentora ar gyfer Meddygon Ymgynghorol Newydd

Trwy drefniant paru mentoriaid, bydd meddygon ymgynghorol newydd sy'n ymuno â'r bwrdd iechyd yn gallu cael eu rhoi mewn cysylltiad â mentoriaid cymheiriaid profiadol sydd â'r cymwyseddau angenrheidiol i'w cefnogi wrth iddynt ddechrau ar eu swydd o fod yn feddyg ymgynghorol newydd.

Mentora Cymheiriaid (Meddygon a Meddygon Ymgynghorol SAS)

Mae rhwydweithiau cymheiriaid o fentoriaid Meddygon a Meddygon Ymgynghorol SAS wedi cael eu datblygu yn y Bwrdd Iechyd, lle mae unigolion wedi dilyn rhaglen hyfforddi ddeuddydd o hyd mewn modelau a sgiliau sy'n gysylltiedig â mentoriaeth. Trwy drefniant paru, mae Meddygon a Meddygon Ymgynghorol SAS yn cael eu dyrannu yn barau mentora gyda chyd-weithwyr o arbenigeddau gwahanol a/neu ysbytai gwahanol yn y bwrdd iechyd.     

Rhaglen Darpar Arweinwyr Meddygol (AMLP)

Mae'r rhaglen hon yn darparu'r wybodaeth sylfaenol sy'n ofynnol i ddatblygu system gofal iechyd sydd ag ymwybyddiaeth o Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n canolbwyntio ar ddysgu sefydliadol amser real trwy herio cynrychiolwyr i ddefnyddio'r rhaglen fel ffordd o ddatrys materion go iawn, a hynny'n bennaf yn eu priod wasanaethau.

Mae'r rhaglen yn un ar gyfer darpar arweinwyr meddygol newydd a benodwyd yn gymharol ddiweddar, a hynny o bob rhan o'r sefydliad, gan adlewyrchu'r cymysgedd cyfoethog o amrywiaeth sy'n bodoli yn y Bwrdd Iechyd. Mae ar gael ar gyfer Meddygon Ymgynghorol a Meddygon Teulu. Mae'r model hwn yn lliniaru'r duedd o feddu ar feddwl seilo, yn cysylltu rhannau helaeth o'r system gyfan, a hefyd yn cynorthwyo i ddatblygu perthnasoedd yn lleol ac yn ehangach.

Mae canlyniadau'r rhaglen fel a ganlyn:

  • Dealltwriaeth o'r wybodaeth sylfaenol am agweddau anghlinigol ar y sefydliad a'r system ehangach.
  • Rhagor o alluogrwydd i'r unigolyn ddylanwadu ar ei feysydd arbenigol ei hun o gyfrifoldeb clinigol, a datblygu galluogrwydd i gael dylanwad ledled y system.
  • Cymorth cymheiriaid ac awydd ar y cyd i wella gwasanaethau clinigol y tu hwnt i oes y rhaglen.

Fforwm Arweinyddiaeth Feddygol (MLF)

Nod yr MLF yw datblygu'r gallu a'r galluogrwydd arwain ymhlith y corff meddygol uchaf fel y gall fynd i'r afael, fel cyfangorff ac mewn modd effeithiol, â materion sy'n ymwneud â datblygiad proffesiynol a gwasanaethau, ac sy'n effeithio ar y system gyfan. Mae'r fforwm yn cyfarfod bum gwaith trwy gydol y flwyddyn.

Mae aelodaeth y Fforwm Arweinyddiaeth Feddygol yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfarwyddwr Meddygol
  • Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol
  • Cyfarwyddwyr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Addysg, Ansawdd a Diogelwch, Ymchwil a Datblygu, Gwybodaeth Glinigol a Safonau Proffesiynol
  • Arweinwyr Clwstwr/Cyfarwyddwyr Ardal
  • Cyfarwyddwyr Ysbyty/Gwasanaeth
  • Cyfarwyddwr Trawsnewid Clinigol
  • Pennaeth Datblygu Sefydliadol

Rhaglen Arweinyddiaeth Lefel Systemau (SLLIP)

Mae gan Uwch-arweinwyr Meddygol gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein Rhaglen Arweinyddiaeth Lefel Systemau. Rhaglen amlbroffesiynol yw hon, gyda chynrychiolaeth o'n system gyfan o fewn ffiniau Hywel Dda. Fe'i cynlluniwyd i alluogi arweinwyr i wneud gwelliannau parhaus ledled ein gwasanaethau a'n systemau. Mae cyfranogwyr yn y gorffennol wedi cynnwys Cyfarwyddwyr Ysbyty, arweinwyr clystyrau meddygon teulu, Penaethiaid Nyrsio, Rheolwr Cyffredinol a Phenaethiaid Therapïau.

Galluogi Gwella Ansawdd mewn Ymarfer (EQIiP)

Rhaglen amlddisgyblaethol yw hon, gyda nodau sy'n sail i ddatganiad cenhadaeth, amcanion strategol a gwerthoedd sefydliadol y Bwrdd Iechyd:

  • Dim marwolaethau y gellir eu hosgoi
  • Amddiffyn cleifion rhag niwed y gellir ei osgoi o ganlyniad i ofal
  • Lleihau dyblygu a dileu gwastraff
  • Lleihau amrywiadau diwarant a chynyddu dibynadwyedd
  • Canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r cleifion, defnyddwyr y gwasanaethau, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a'n staff.

Mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gweithlu a'i alluogi i wella ansawdd ei wasanaethau. Gan ddefnyddio dull system gyfan o wella ansawdd, mae'r rhaglen gydweithredol yn defnyddio gweithgareddau sy'n rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i staff i gydnabod lle mae angen gwelliant, ac i wneud newidiadau sy'n ychwanegu gwerth at y gofal y mae cleifion, defnyddwyr y gwasanaethau, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn ei gael.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: