Neidio i'r prif gynnwy

Academi Brentisiaeth 2022

Mae Academi Brentisiaeth Hywel Dda yn gyfle gwych os ydych am ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Tra'ch bod ar raglen ddysgu strwythuredig yn y gwaith, byddwch yn gallu dysgu wrth ennill arian, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. 

Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i'w cwblhau ac maent ar gael i unrhyw un o 16 oed. Yn ogystal â bod yn y gweithle, byddwch chi'n mynychu'r coleg neu ganolfan hyfforddi i weithio ar eich cymwysterau.

Mae mwy o wybodaeth am yr Academi Brentisiaeth ar gael isod yn ogystal â gwybodaeth bellach am gyfleoedd recriwtio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau ar brentisiaethau neu gymwysterau, cysylltwch â’r Academi Brentisiaeth ar ebost apprenticeship.academy@wales.nhs.uk neu dros y ffôn ar 07971 480755.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: