Neidio i'r prif gynnwy

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Streic

Rydym yn deall y gallech fod yn bryderus ynghylch eich mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn ystod y cylch gweithredu diwydiannol sydd i ddod .

Yn ystod unrhyw streic, bydd gwasanaethau brys ar gael o hyd, ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid undeb llafur, staff a’r system iechyd ehangach i wneud yn siŵr y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Yn anochel, bydd tarfu ar wasanaethau gofal iechyd, ac rydym yn gofyn i bawb ddefnyddio ein gwasanaethau'n synhwyrol ar yr adeg anodd hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ac yn cadw stoc o'ch meddyginiaethau presgripsiwn, gofalu amdanoch chi'ch hun, ffrindiau, cymdogion a theulu, a dim ond ffonio 999 (neu 111) pan fydd gwir angen gwneud hynny.