Cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a chwmni biotechnoleg byd-eang Amgen yn lansiad y prosiect.

Cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a chwmni biotechnoleg byd-eang Amgen yn lansiad y prosiect.

Mae cydweithrediad newydd mawr wedi'i lansio gyda'r nod o wella diagnosis a thriniaeth cleifion cardiofasgwlaidd ar draws Cymru.

Bydd prosiect Iechyd Poblogaeth y Genhedlaeth Nesaf yn GIG Cymru yn gweld Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a chwmni biotechnoleg byd-eang Amgen yn cydweithio dros y ddwy flynedd nesaf.i 

Mae lefel yr angen am iechyd clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) ar draws pob rhanbarth yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru heddiw. Mae gwasanaethau a gofal i’r cleifion sydd â CVD, neu sydd mewn perygl o hynny, yn amrywio’n sylweddol mewn gwahanol feysydd, yn enwedig o ran nodi cleifion risg uchel a mabwysiadu canllawiau ar sail tystiolaeth mewn triniaeth. 

O ganlyniad, mae nid yn unig bylchau sylweddol mewn gofal a chanlyniadau i gleifion ond hefyd straen sylweddol ar adnoddau a chyllid. 

Bydd y prosiect yn gweld Amgen yn gwneud buddsoddiad sylweddol i helpu i ddatblygu Labordy Dysgu ar gyfer rhagweld risg poblogaeth yn ogystal ag ymchwil i werthuso effeithiolrwydd clinigau arbenigol dwys iawn, a fydd yn cynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe. Bydd ffocws allweddol y gwaith ar dargedu canlyniadau gwell i gleifion CVD. 

Defnyddia’r prosiect ecosystem data a gwybodeg bresennol ym Manc Data SAIL y Brifysgol i ddadansoddi data i ddatblygu systemau sy’n adnabod cleifion sydd mewn perygl mawr o glefydau yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd yn archwilio effeithiolrwydd y clinigau a arweinir gan fferyllwyr o ran lleihau’r bwlch triniaeth a sicrhau bod cleifion cardiofasgwlaidd risg uchel yn cael eu hadnabod a’u gweld gan y person cywir, yn y lleoliad cywir, ar yr adeg gywir. 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol BIP Hywel Dda, Dr Leighton Phillips: ‘‘Rydym yn falch o gefnogi'r prosiect pwysig hwn trwy ein Sefydliad TriTech. Mae'n cynnig y siawns o adnabod cleifion sydd â risg uwch o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd yn gynharach a chymryd camau gyda nhw i wella eu hiechyd ac ansawdd eu bywyd. 

“Mae’r prosiect hefyd yn tynnu sylw at y partneriaethau gwyddor bywyd arloesol, gyda chwmnïau blaenllaw fel Amgen, sydd bellach ar y gweill yn Ne Orllewin Cymru a’r buddion cysylltiedig i gleifion a chlinigwyr.’’ 

Daeth lansiad cychwynnol y cydweithrediad â phartneriaid allweddol, a fydd yn cydweithio ar y prosiect, at ei gilydd mewn lansiad anffurfiol a gynhaliwyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. 

Meddai'r Dirprwy Is-ganghellor a'r Deon Gweithredol o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd, yr Athro Keith Lloyd: “Mae’r bartneriaeth hon yn dangos beth sy’n gallu digwydd pan fyddwch yn dod ag ymchwil, arbenigedd clinigol a thechnoleg arloesol ynghyd er budd cleifion. 

“Mae cydweithio fel y rhain yn hollbwysig i’n helpu i gyflawni ein nod hirdymor o wella iechyd poblogaeth Cymru a meithrin diwydiant gwyddor bywyd ffyniannus. 

“Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn falch iawn o fod yn chwarae rhan mor bwysig yn y prosiect cyffrous hwn.” 

Ychwanegodd Dr Tony Patrikios, Cyfarwyddwr Meddygol Amgen yn y DU ac Iwerddon: Yn ôl ffigyrau Sefydliad Prydeinig y Galon, mae oddeutu 340,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd y galon, cyflwr sy'n achosi tua 9,500 o farwolaethau bob blwyddyn. 

“Mae mynd i’r afael â her iechyd cyhoeddus ar y raddfa hon yn gofyn am feddwl ffres a dulliau newydd arloesol – fel y rhai rydym yn gobeithio eu cyflawni drwy’r bartneriaeth hon – i greu atebion cost-effeithiol wedi’u teilwra sy’n ysgogi canlyniadau gwell i gleifion.”

 

Rhannu'r stori