Neidio i'r prif gynnwy

Cyfyngiadau ymweld â'n hysbytai

Bonheddwr yn cerdded trwy ward yr ysbyty

Diolch i bawb am gefnogi cyfyngiadau ymwelwyr sydd yn amddiffyn ein cleifion a'n GIG. Er mwyn cydymffurfio â mesurau pellhau cymdeithasol fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae ymweld â’n hysbytai yn parhau i fod yn gyfyngedig dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Mae hyn er mwyn amddiffyn ein cleifion a'n staff ar yr adeg anodd hon ac wrth i bandemig COVID-19 barhau.  

Rydym yn gwerthfawrogi bod y cyswllt hwnnw ag anwyliaid yn cefnogi lles cleifion. Am y rheswm hwn, mae rhith-ymweld yn parhau ym mhob maes ac rydym yn cefnogi cleifion i gysylltu â theulu a ffrindiau trwy ffonau symudol a thabledi mewn ffordd ddiogel.

Mae ymweld yn cael ei ddarparu trwy gytundeb rheolwr y ward ar gyfer yr achosion canlynol:

  • Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro ar gyfer plant a babanod.
  • Mam eni - un partner.
  • Cleifion ag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl - un ymwelydd i ddarparu cefnogaeth trwy drefniant.
  • Cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes neu neu sydd angen gofal lliniarol - i'w drefnu gyda’r nyrs â gofal.

Gofynnir i bob ymwelydd gydymffurfio â chanllawiau atal heintiau, pellter cymdeithasol a lle bo hynny'n bosibl, i wisgo wyneb yn gorchuddio a diheintio eu dwylo.

Ni ddylai ymweld fynd yn ei flaen os yw ymwelwyr yn hunan-ynysu, gyda symptomau Covid-19 ar hyn o bryd neu'n ddiweddar neu wedi bod yn agored i rywun â Covid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.

Gall ein tîm cefnogi cleifion helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar a 0300 0200 159 a byddant yn gwneud eu gorau i'ch helpu chi.

Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod anodd i bawb a byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a'u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl. Diolch am eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus.

Mae ein gwasanaeth caplaniaeth hefyd wrth law i ddarparu cefnogaeth ysbrydol i'n staff a'n cleifion ar yr adeg anodd hon.