Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant Cymru yn lansio Platfform Adnoddau newydd ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cartref

Roedd Gwelliant Cymru yn cydnabod y gallai staff cartrefi gofal a staff gofal cartref arbed amser hollbwysig pe byddai modd iddynt gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein sydd ei hangen arnynt yn ddyddiol, mewn un lle, naill ai ar ffôn symudol neu gyfrifiadur.

Gweithiodd tîm Gofal Cartref Cymru yn Gwelliant Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, i nodi'r wybodaeth y mae angen i staff ei chyrchu, ac yna maent wedi darparu'r dolenni ar Blatfform Adnoddau un stop. 

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymuned a Gofal Tymor Hir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae argaeledd yr Ap hwn ar gyfer ein cartref gofal a’n staff cartref yn ddatblygiad i’w groesawu. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd darparu mynediad at wybodaeth hygyrch mewn modd amserol. Bydd yr Ap hwn yn galluogi staff gofal rheng flaen i gael gafael ar wybodaeth am y swydd. Byddwn yn annog pob un o’n staff gofal cartref a staff cartref i lawrlwytho’r Ap neu ymweld â’r wefan heddiw.”

Mae ar gael ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog) i'w gwneud hi'n hawdd gweld, dros y ffôn neu fwrdd gwaith, mewn gwahanol leoliadau lle mae staff yn ystod eu sifftiau.  Mae'r dolenni’n cynnwys gwybodaeth am reoli heintiau, nodi dirywiad, iechyd meddwl a llesiant, COVID-19, hyfforddiant, arweiniad a chysylltiadau defnyddiol.

Dywedodd Rosalyn Davies, Arweinydd Rhaglen Gwelliant Cymru: “Rydym yn falch iawn o ddarparu cefnogaeth i staff cartrefi gofal a staff gofal cartref gyda'r Platfform Adnoddau sy'n darparu'r cysylltiadau sydd eu hangen ar staff prysur i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Hoffem ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac i’n partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau a'u cefnogaeth."

Gellir cael mynediad i’r Platfform Adnoddau trwy:

I gael y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hduhb.wales.nhs